Hei Mistar Urdd | 25.01.2022

แชร์
ฝัง
  • เผยแพร่เมื่อ 16 พ.ย. 2024
  • Bydd yr Urdd a’r genedl gyfan yn ymgeisio am ddau deitl Guinness World Records™ drwy gyd-ganu ac uwchlwytho fideos o’r gân eiconig, Hei Mistar Urdd, i Twitter a Facebook.
    Dyma’r fersiwn sydd angen ei chanu ar y 25ain o Ionawr 2022.
    Fideo / Video: Mei Gwynedd a Phlant Ysgolion Caerdydd a'r Fro
    Cyfansoddwr ac awdur y gân / Composer and writer: Geraint Davies
    The Urdd and the whole nation will attempt two Guinness World Records™ titles by singing together and uploading videos of the iconic song, Hei Mistar Urdd, onto Twitter and Facebook.
    This is the version of the song to be performed on the 25th of January 2022.
    Geiriau / Lyrics:
    Un, dau, un, dau, tri, go!
    Hei, Mistar Urdd, yn dy goch, gwyn a gwyrdd
    Mae hwyl i’w gael ym mhobman yn dy gwmni.
    Hei, Mistar Urdd, ty’d am dro ar hyd y ffyrdd
    Cawn ganu’n cân i holl ieuenctid Cymru.
    Gwelais di’r tro cyntaf erioed yn y gwersyll ger y lli
    A chofiaf am yr hwyl fu yno’n hir.
    Dyddiau hir o heulwen haf, y cwmni gorau fu
    Ac af yn ôl i aros cyn bo hir.
    Hei, Mistar Urdd, yn dy goch, gwyn a gwyrdd
    Mae hwyl i’w gael ym mhobman yn dy gwmni.
    Hei, Mistar Urdd, ty’d am dro ar hyd y ffyrdd
    Cawn ganu’n cân i holl ieuenctid Cymru.
    Cawn ganu’n cân i holl ieuenctid Cymru.

ความคิดเห็น •