Sinfonia Cymru - Augusta Read Thomas - Silent Moon

แชร์
ฝัง
  • เผยแพร่เมื่อ 13 ต.ค. 2024
  • This International Women’s Day, we’re sharing two clips of our concert “A More Perfect Union”, curated by Sinfonia Cymru cellist Abigail Lorimer. Performed in September 2023 as part of the Vale of Glamorgan Festival, the concert explored music by contemporary female composers living in America.
    In her programme note for the concert, Abby wrote:
    “At 24, I have now spent more than a quarter of my life in the United Kingdom. When I think about America, where I was born and raised, I feel disconnected from its current state. I find myself at a juncture where I want to reassess my American identity outside of what I see in frightening news headlines. The American music which I played during my studies was primarily by male composers born at the turn of the 20th century. While some of that music is excellent, it doesn’t spark that sense of home for me; the very-female and very-queer communities of my childhood feel left out of the global picture of what ‘American music’ looks like and sounds like. Determined Spotify deep-dives during pandemic-era musical life allowed me to discover works by a diverse range of living composers from my home country. This concert is an amalgamation of that exploration, with music by Gabriela Lena Frank, Lera Auerbach, Augusta Read Thomas and Caroline Shaw. I feel privileged to share this music with audiences in Wales.”
    With thanks to: Arts Council Wales and The Leche Trust for supporting this project; the Vale of Glamorgan Festival; and Andrew Lawson for these recordings which were made at the Royal Welsh College of Music and Drama.
    Maria Ismini Anastasiadou, violin/ffidil
    Isobel Neary-Adams, viola/fiola
    Part of "A More Perfect Union", curated by Abigail Lorimier, cello/soddgrwth
    Eleni, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, rydym yn rhannu dau glip o’n cyngerdd “A More Perfect Union”, a raglennwyd gan Abigail Lorimer sy’n chwarae’r cello gyda Sinfonia Cymru. Roedd y cyngerdd, a berfformiwyd fis Medi diwethaf fel rhan o Ŵyl Bro Morgannwg, yn archwilio cerddoriaeth gan gyfansoddwyr benywaidd cyfoes sy’n byw yn America. Ewch draw i’n sianel TH-cam i glywed y perfformiadau’n llawn.
    Yn ei nodiadau rhaglen ar gyfer y cyngerdd, mae Abby’n ysgrifennu:
    “Yn 24 oed, rydw i bellach wedi treulio mwy na chwarter fy mywyd yn y Deyrnas Unedig. Wrth feddwl am America, lle cefais fy ngeni a’m magu, rwy’n teimlo nad oes gen i gysylltiad â’i chyflwr presennol. Ar hyn o bryd rwyf mewn sefyllfa lle hoffwn ailasesu fy hunaniaeth Americanaidd y tu allan i’r hyn a welaf ym mhenawdau brawychus y newyddion. Roedd y gerddoriaeth Americanaidd y byddwn yn ei chwarae pan o’n i’n astudio wedi ei hysgrifennu’n bennaf gan gyfansoddwyr gwrywaidd a aned ar dro’r 20fed ganrif. Er bod peth o’r gerddoriaeth honno’n ardderchog, nid yw’n sbarduno’r teimlad hwnnw o gartref i mi; mae cymunedau hynod-fenywaidd a hynod-cwîar fy mhlentyndod yn teimlo eu bod wedi cael eu gadael allan o’r darlun byd-eang o sut y mae ‘cerddoriaeth Americanaidd’ yn edrych ac yn swnio. Drwy fynd ati’n frwdfrydig yn ystod bywyd cerddorol cyfnod y pandemig i archwilio Spotify, llwyddais i ddarganfod gweithiau gan ystod amrywiol o gyfansoddwyr byw o’m gwlad enedigol. Mae’r cyngerdd hwn yn gyfuniad o’r fforiad hwnnw, gyda cherddoriaeth gan Gabriela Lena Frank, Lera Auerbach, Augusta Read Thomas, a Caroline Shaw. Rwy’n teimlo’n freintiedig o gael y cyfle i rannu’r gerddoriaeth hon gyda chynulleidfaoedd yng Nghymru.”
    Gyda diolch i’r canlynol: Cyngor Celfyddydau Cymru ac Ymddiriedolaeth Leche am gefnogi’r prosiect; Gŵyl Bro Morgannwg; ac Andrew Lawson am y recordiadau hyn.

ความคิดเห็น •