Adwaith - Addo

แชร์
ฝัง
  • เผยแพร่เมื่อ 30 ก.ย. 2024
  • Dyma’r fideo i sengl newydd Adwaith - ADDO - sydd allan heddiw.
    Yn dilyn rhyddhau 'Bato Mato', ail albwm Adwaith aeth ymlaen i ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2022, roedd y band o Gaerfyrddin yn awyddus i ddychwelyd i natur amrwd eu sain gynnar. Mae 'Addo', sef cipolwg cyntaf o drydydd albwm y band fydd allan flwyddyn nesaf, yn gweld Adwaith yn mynd yn ôl i'w gwreiddiau gyda thrac agored, adeiladol a llac.
    Yn dwyn ysbrydoliaeth gan artistiaid fel Juliana Hatfield a Hole, daeth 'Addo' at ei gilydd yn Black Bay Studios yn yr Hebrides, Yr Alban - gyda neb llai na James Dean Bradfield (Manic Street Preachers) yn chwarae gitâr ar y trac. Er bod y sengl wedi'i ddylanwadu gan felodïau disglair Breeders a Liz Phair, yn delynegol, 'Addo' yw un o ganeuon tywyllaf y triawd hyd yma. Eglura'r band: "Mae 'Addo' yn ymwneud â pherthnasau sy'n eich blino chi. Mae’n ymwneud â gofalu am rywun sy'n hunanddinistriol lle nad yw’n poeni amdanyn nhw ei hunain, a sut mae hynny'n cael effaith ar eich barn chi am y byd a’r bobl o’ch cwmpas.”
    Cynhyrchydd Fideo / Video Producer: Aled Wyn Jones
    Director of Photography & Editing: Ren Faulkner
    Camera: Siôn Gwyn
    Geiriau/Lyrics:
    Addo
    Brifo, Brifo fi pob munud o pob dydd
    Ceisio, ceisio dymchwel popeth yn fy myd
    Ti’n mynd ymlaen ymlaen ymlaen ymlaen ymlaen x2
    Dwi’n gwybod byddai’n iawn, hapus a chyflawn
    Erbyn deffro’r haul, bydd fy nghalon i yn llawn
    Neu di addo, neu di addo
    Byth dod nol i fi x2
    Siglo, trio rhoi y synnwyr ynddo ti
    Becso, becso bod e ddim yn effeithio ti
    Ti’n mynd ymlaen ymlaen ymlaen ymlaen ymlaen x2
    Dwi’n gwybod byddai’n iawn, hapus a chyflawn
    Erbyn deffro’r haul, bydd fy nghalon i yn llawn
    Neu di addo, neu di addo
    Byth dod nol i fi
    Neu di addo, neu di addo
    Byth dod nol i fi x2
    Promise (Addo)
    Hurting hurting me every minute of every day
    Trying, trying to knock down everything in my world
    You go on on on on on on x2
    I know i’ll be fine, happy and complete
    By the time the sun wakes up, my heart will be full
    Will you promise, will you promise
    Never to come back to me x2
    Shaking, trying to put some sense into you
    Worrying , worrying that it doesn't affect you
    You go on on on on on on x2
    I know i’ll be fine, happy and complete
    By the time the sun wakes up, my heart will be full
    Will you promise, will you promise
    Never to come back to me
    Will you promise, will you promise
    Never to come back to me x2
    Label cyhoeddi - Libertino
    Cerddoriaeth newydd a diwylliant cyfoes Cymru 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
    New Welsh music and contemporary culture 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
    Gwasga'r botwm 'Subscribe'
    TikTok, Instagram, Twitter & Facebook - @Lwps4c

ความคิดเห็น • 6

  • @drychaf
    @drychaf 11 หลายเดือนก่อน +2

    poptastig

  • @ReverendHowl
    @ReverendHowl 10 หลายเดือนก่อน

    Saw them play this last week. It were grêt but.... no kazoos. Mebbe it's a special stomp box setting?

  • @BlatteSvartskallsson
    @BlatteSvartskallsson 11 หลายเดือนก่อน +1

    da iawn

  • @arjay9745
    @arjay9745 9 หลายเดือนก่อน

    Saw the review on Broken Color. Really like this song. Going to check out the rest of the album.

  • @dafuzzymonster
    @dafuzzymonster 11 หลายเดือนก่อน +1

    Edrych fel bomb stores Llanberis

    • @ReverendHowl
      @ReverendHowl 10 หลายเดือนก่อน

      Ffatri Nobel Pen-bre hefyd.