Pobl ifanc yn arddangos Castell-nedd Port Talbot mewn fideo newydd

แชร์
ฝัง
  • เผยแพร่เมื่อ 2 ต.ค. 2024
  • Mae pobl ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi cael cyfle i greu fideo sy'n cyfleu eu syniadau ynghylch yr hyn y mae Castell-nedd Port Talbot yn ei gynrychioli iddyn nhw. Crëwyd y fideo, o'r enw 'My NPT' gan grŵp o bobl ifanc gyda chefnogaeth gan Horizons, rhan o ddarpariaeth y Gwasanaeth Ieuenctid, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyflogadwyedd CNPT. Y prosiect fideo hwn yw'r diweddaraf mewn cyfres o weithgareddau Horizon sy'n ceisio helpu pobl ifanc 16-18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant i ennill sgiliau, profiadau a chymwysterau newydd er mwyn chwalu rhwystrau a'u helpu i symud yn agosach at y farchnad lafur.
    Darparwyd yr hyfforddiant mewn partneriaeth â Rewise Learning. Dysgodd y cyfranogwyr amrywiaeth o sgiliau gwahanol gan gynnwys creu bwrdd stori, ffotograffiaeth lonydd a fideo, golygu, cyfansoddi cerddoriaeth a defnyddio drôn.
    Cytunodd yr holl gyfranogwyr eu bod wedi mwynhau cymryd rhan, rhoddwyd hwb i'w hyder ac roedd yn gyfle gwych i gymdeithasu â phobl eraill. Roeddent yn falch iawn o'r fideo a'u cyflawniadau personol.
    Meddai Rachel Anne Williams, Arweinydd Tîm Horizons, "Mae Horizons wedi helpu nifer o bobl ifanc a oedd yn ynysig ac yn ansicr ynghylch eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Gyda chefnogaeth ein Gweithwyr Ieuenctid maent bellach yn cymdeithasu, yn gweithio mewn grwpiau, yn ennill cymwysterau ac yn ennill amrywiaeth o sgiliau a phrofiadau newydd. Mae'r fideo yn wych ac mae'n brawf o dalent a gwaith caled y grŵp hwn o bobl ifanc.
    I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall Horizons helpu pobl ifanc, ffoniwch 01639 763030 neu e-bostiwch YouthServiceEmployability@npt.gov.uk
    Chwiliwch am Gyflogadwyedd CNPT/Gwasanaeth Ieuenctid CNPT i ddod o hyd i gyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
    Gwasanaeth a gyflwynir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yw Cyflogadwyedd CNPT, ac fe'i hariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
    #CronfaFfyniantGyffredinyDU

ความคิดเห็น •