Lefel 2 Synau hofrennydd, diferyn a mwy: Dysgu Bît-Bocsio gyda Mr Phormula

แชร์
ฝัง
  • เผยแพร่เมื่อ 22 ม.ค. 2025
  • Eisiau dysgu sut i greu sŵn hofrennydd, dŵr yn glanio a chi yn cyfarth - gan ond ddefnyddio'r geg? Croeso i Lefel 2 - yn y fideo yma bydd Mr Phormula yn dangos i chi sut mae datblygu eich effeithiau sain. Mae'r fideo yma yn addas ar gyfer pobl ifanc 16+
    -----------------------
    Ewch yn gyflym i:
    0:19 Seiren
    1:10 Corn
    1:39 Hofrennydd
    4:49 Ci yn cyfarth
    5:32 Curiad calon
    -----------------------
    Mwy am y tiwtor
    Mae Mr Phormula yn un o arloeswyr y sîn bît-bocsio yn y DU. Wedi’i wreiddio’n ddwfn yn nhirwedd Cymru, mae’i berfformiadau ysbrydoledig a’i gyfansoddiadau lleisiol wedi rhoi cydnabyddiaeth ryngwladol i’w waith fel bît-bocsiwr, rapiwr a chynhyrchydd blaenllaw.
    Mae Mr Phormula wedi cynnal sessiynau a gweithdai mewn lleoliadau sy’n cynnwys unedau cyfeirio disgyblion, theatrau, carchardai, colegau, ysgolion, orielau a gwyliau rhwngwladol.
    www.mrphormula....
    / mrphormula
    / mrphormula
    / mrphormula
    -----------------------
    Barod i symud ymlaen? Dysgwch ragor o sgiliau bît-bocsio gyda’r gwersi yma: [linc playlist]
    -----------------------
    Mwy am Llwyfan.Cymru
    Mae Llwyfan.Cymru yn gyfres o wersi fideo drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru. Dysgwch sgiliau ym meysydd iaith, cerddoriaeth, technoleg, y celfyddydau ac iechyd gan ddilyn cyfarwyddiadau ac awgrymiadau ein tiwtoriaid arbenigol.
    -----------------------
    Mwy am Cymru FM
    Platfform amlgyfrwng ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru yw Cymru FM. Gwrandewch ar ffrwd radio Cymru FM i fwynhau cerddoriaeth Cymraeg 24/7, neu ewch i Llwyfan.Cymru i ddysgu sgiliau newydd ym meysydd iaith, cerddoriaeth, technoleg, y celfyddydau ac iechyd - a phob dim drwy gyfrwng y Gymraeg.
    -----------------------
    cymru.fm/
    / cymrufm
    cy...
    www.instagram....

ความคิดเห็น •