Candelas ft. Tudur Owen - Anifail (Yn Fyw / Live) | Sesiwn Fawr Dolgellau 2022

แชร์
ฝัง
  • เผยแพร่เมื่อ 9 ก.พ. 2025
  • Mae Candelas yn dal eu gafael yn dynn ar y teitl o fod yn un o fandiau amlycaf sin gerddoriaeth Cymru. Mae’n nhw’n fand lleol i’r wyl sy’n chwarae cerddoriaeth roc amgen. Dyma nhw'n perfformio 'Anifail' gyda gwestai arbennig - Tudur Owen.
    Gŵyl gerddorol flynyddol Geltaidd a rhyngwladol ydi Sesiwn Fawr Dolgellau sydd wedi tyfu i fod yn un o brif wyliau cerddorol Ewrop. Eleni, gwelwyd miloedd yn dychwelyd i’r ŵyl werin boblogaidd i nodi pen-blwydd yr ŵyl yn 30 oed. Mae’r ŵyl gerddoriaeth ddwyieithog yn denu rhai o artistiaid mwyaf y sin gerddoriaeth Gymraeg, yn ogystal ag artistiaid o bob rhan o’r byd. Perfformiodd 58 o artistiaid ar draws 9 llwyfan mewn lleoliadau amrywiol ledled Dolgellau eleni - gan gynnwys Yws Gwynedd, N’famady Kouyate, Tara Bandito, NoGood Boyo, Truckstop Honeymoon, The Trials of Cato a band gwerin byd-enwog o’r Alban - Skerryvore.
    #Candelas #TudurOwen #SesiwnFawrDolgellau
    Cerddoriaeth newydd a diwylliant cyfoes Cymru 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
    New Welsh music and contemporary culture 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
    Gwasga'r botwm 'Subscribe'
    TikTok, Instagram, Twitter & Facebook - @Lwps4c

ความคิดเห็น •